Folge uns
iBookstore
Android app on Google Play
Gefällt mir
Ein Programm der Universität Leiden
Llwch y Gofod
22. July 2017, Cardiff

Mae ein Bydysawd yn hynod o hen – mae hi bron yn un deg pedwar biliwn mlwydd oed. Yn debyg i rai hen bethau, mae’n llawn llwch.

Ond, mae’r llwch yma’n wahanol iawn i’r llwch sydd yn ein tai. Gronynnau pitw, llawer llai na lled darn o wallt yw’r llwch gofod yma, ac maent yn byw rhwng sêr.

Roedd yna amser lle'r oedd llwch gofod yn boen mawr i Seryddwyr gan ei fod yn rhwystro golau rhag ein cyrraedd o wrth-drowch pell i ffwrdd yn y gofod. Oherwydd hyn, mae’r gofod yn edrych yn dywyll a diflas gan fod yr holl bethau diddorol wedi’u cuddio.

Ond yna, dechreuodd seryddwyr ddefnyddio camerâu arbenigol i edrych ar y gofod yn yr is-goch. Darganfyddwn nhw fod y llwch yma’n disgleirio!

Roedd hyn yn ddarganfyddiad pwysig oherwydd roedd yn sail dechrau ymchwilio’n bellach i mewn i’r llwch. Rydym yn gwybod nawr mai llwch yw’r deunydd sy’n creu ein cyrff, planedau, a sêr!

Caiff llwch gofod, yn ogystal â moleciwlau (gronynnau gyda mwy nag un elfen ynddynt) eu creu o amgylch sêr.

Caiff llwch gofod, yn ogystal â moleciwlau (gronynnau gyda mwy nag un elfen ynddynt) eu creu o amgylch sêr. Ond, marwolaeth ffrwydrol sydd gan rhai sêr – ffrwydrad hynod o anferthol; hyd yn oed yn fwy llachar na biliynau o sêr. Wrth i hyn ddigwydd, caiff yr holl foleciwlau cyfagos eu dinistrio.

Dyma’r rheswm cafodd gwyddonwyr eu syfrdanu ar ôl iddynt ddarganfod gronynnau pitw o lwch tu fewn i weddillion seren oedd eisoes wedi ffrwydro!

Ffrwydrodd y seren roeddent yn ei archwilio dros 30 mlynedd yn ôl. Ers hynny, oerodd weddillion y seren ddigon i alluogi i foleciwlau newydd ffurfio allan o’r digonedd o ddeunyddiau cafodd eu creu yn y seren drwy gydol ei hoes. Y cynnyrch terfynol yw rhyw fath o ffatri llwch anhygoel.

Dyma’r broses sy’n atgyfodi sêr, gan mai marwolaeth un seren sy’n creu amodau perffaith ar gyfer ffurfio mwy o sêr, planedau, ac efallai hyd yn oed bywyd!

Ffaith Cŵl

Caiff hanner o holl olau’r bydysawd ei guddio o’n llygaid gan lwch gofod. Diolch bydd ein bod wedi dyfeisio camerâu arbenigol i fedru gweld y golau cudd!

Heledd Roberts

Share:

Mehr Neuigkeiten
14 September 2020
10 September 2020
3 September 2020

Bilder

Baumaterial für Sterne
Baumaterial für Sterne

Printer-friendly

PDF File
1,0 MB